Organising body | Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabiaidd FIFA (from 2021) |
---|---|
Founded | 1963 |
Region | Byd Arabaidd (UAFA) |
Number of teams | 16 (finals) |
Current champions | Moroco (1st teitl) |
Most successful team(s) | Irac (4 teitl) |
Website | Gwefan Swyddogol |
Rhifyn 2021 |
Mae Cwpan Arabaidd FIFA neu Cwpan Pêl-droed Arabia neu Cwpan y Cenhedloedd Arabaidd neu'n fyr, y Cwpan Arabaidd (Arabeg: كأس الأمم العربية, Kaʾs al-Umam al-ʿarabiyya, Saesneg: FIFA Arab Cup; Arab Cup; Arab Nations Cup) yn gystadleuaeth bêl-droed i dimau cenedlaethol y byd Arabaidd, a drefnir gan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd (UAFA) ac fe'i cynhaliwyd ar gyfnodau afreolaidd er 1963. Roedd twrnamaint 1992 yn rhan o'r Gemau Pan-Arabaidd. Yn 2009 cafodd y gystadleuaeth ei chanslo yn ystod y cymal cymhwyso. Yn ystod yr egwyl hir rhwng 1966 a 1985, chwaraewyd Cwpan y Cenhedloedd Palesteinaidd yn ei lle, er ei bod yn dal yn aneglur ai parhad o dan enw gwahanol yn unig ydoedd.